Cynulliad Cenedlaethol Cymru | National Assembly for Wales

Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg | Children, Young People and Education Committee

Cyllido Ysgolion yng Nghymru | School Funding in Wales

SF 30

Ymateb gan:  Mudiad Meithrin
Response from:
Mudiad Meithrin

 

 

Cefndir Mudiad Meithrin

Mudiad Meithrin yw’r prif ddarparwr gofal ac addysg cyfrwng Cymraeg yn y sector wirfoddol drwy rwydwaith genedlaethol o gylchoedd meithrin, cylchoedd Ti a Fi, gofal cofleidiol a meithrinfeydd dydd cyfrwng Cymraeg.

Sefydlwyd y Mudiad ym 1971 gydag oddeutu 50 cylch. Erbyn hyn, wedi tyfu’n aruthrol, mae tua 1000 o Gylchoedd Meithrin, Cylchoedd Ti a Fi, grwpiau ‘Cymraeg i Blant’ a meithrinfeydd dan faner Mudiad Meithrin. Mae’r rhain yn darparu profiadau blynyddoedd cynnar i oddeutu 22,000 o blant bob wythnos. Yn ogystal, mae’r Mudiad yn gweithio yn agos iawn gyda rhieni er mwyn darparu cymorth a chyngor i’w galluogi i ddatblygu a chefnogi gwaith y cylchoedd yn y cartref. 

Er mwyn cyflawni hyn, mae Mudiad Meithrin yn elusen gofrestredig sy’n cyflogi dros 200 o bobl yn genedlaethol, gyda 2000 ychwanegol yn gweithio yn y cylchoedd eu hunain. Cefnogir y cylchoedd gan rwydwaith cenedlaethol o staff proffesiynol sy’n eu cynghori ar amrediad o faterion er enghraifft hybu ymarfer da, hyfforddiant staff a chyswllt ag Awdurdodau Lleol.

O ganlyniad, rydym yn gweithio gyda phlant a theuluoedd o amryw o gefndiroedd cymdeithasol-economaidd. Rydym yn cydweithio gyda’r asiantaeth Dechrau’n Deg i ddarparu cyfleoedd yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig, a gyda’r awdurdodau addysg leol i gynnig llefydd addysg rhan amser i blant 3 oed yn eu cymuned leol.

Mae Mudiad Meithrin yn cefnogi 269 darpariaeth Cyfnod Sylfaen mewn Cylchoedd Meithrin, a 14 darpariaeth Cyfnod Sylfaen mewn meithrinfeydd.  Mae pob lleoliad yn cael eu harolygu yn erbyn y fframwaith Cyfnod Sylfaen gan ESTYN yn ogystal â chael eu harolygu gan Arolygaeth Gofal Cymru.

Yn ogystal, mae gennym is-gwmni sydd yn darparu hyfforddiant cyfrwng Cymraeg i ennill cymwysterau blynyddoedd cynnar.  Gwneir hyn drwy gyd-weithio ag ysgolion uwchradd i ddarparu cyrsiau i ddisgyblion ysgol, a thrwy’r cynlluniau hyfforddi cenedlaethol.  Darperir cyrsiau hyfforddi yn seiliedig ar ddysgu yn y gweithle gan rwydwaith o diwtoriaid, aseswyr a  dilyswyr mewnol ledled Cymru.

 

Nodwn fod telerau'r ymchwiliad yn bwriadu canolbwyntio yn benodol ar y canlynol:

·         digonolrwydd y ddarpariaeth ar gyfer cyllidebau ysgolion yng nghyd-destun cyllidebau gwasanaethau cyhoeddus eraill a'r adnoddau sydd ar gael;

·         i ba raddau y mae lefel y ddarpariaeth ar gyfer cyllidebau ysgolion yn ategu neu’n rhwystro’r gwaith o gyflawni amcanion polisi Llywodraeth Cymru;

·         y berthynas, cydbwysedd a thryloywder rhwng ffynonellau cyllid amrywiol ysgolion, gan gynnwys cyllidebau craidd a chyllid neilltuedig;

·         y fformiwla ariannu llywodraeth leol a’r pwysoliad a roddir i gyllidebau addysg a chyllidebau ysgolion yn benodol yn y Setliad Llywodraeth Leol;

·         Goruchwyliaeth Llywodraeth Cymru ynghylch sut y mae awdurdodau lleol yn pennu cyllidebau ysgolion unigol, gan gynnwys, er enghraifft, y pwysoliad a roddir i ffactorau megis proffil oedran y disgyblion, amddifadedd, iaith y ddarpariaeth, nifer y disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol a darpariaeth cyn oedran gorfodol;

·         y cynnydd a'r datblygiadau ers adolygiadau blaenorol pwyllgorau'r Cynulliad (er enghraifft, rhai'r Pwyllgor Menter a Dysgu yn y Trydydd Cynulliad); ac

·         argaeledd cymariaethau rhwng cyllid addysg a chyllidebau ysgolion yng Nghymru a gwledydd eraill y DU a'r defnydd ohonynt.

 

Er nad ydy sefyllfa lleoliadau nas cynhelir sydd yn darparu addysg tair oed yn amlygu ei hun fel rhan o gylch gorchwyl yr ymchwiliad ar yr olwg gyntaf, mae Mudiad Meithrin o’r farn fod gennym ni wybodaeth bwysig a pherthnasol i’w rannu gyda’r Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc. 

 

Mae Mudiad Meithrin yn cydnabod bod y testun o ariannu addysg 3 oed eisoes wedi bod yn rhan o drafodaeth a chylch gorchwyl y Bil Cyllido Gofal Plant, a’r Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc yn y gorffennol.   Gwnaed argymhellion perthnasol gan y Pwyllgor Cyllid yn eu hadroddiad  ‘Goblygiadau ariannol y Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru)’ Gorffennaf 2018, a chroesawyd y rhain gan fudiadau gofal plant CWLWM ar y pryd.

Argymhelliad 22

Bod Llywodraeth Cymru yn cynnal adolygiad o gost / cyfraddau tâl ar draws lleoliadau a gynhelir a rhai nas cynhelir ar gyfer gofal plant, addysg y blynyddoedd cynnar ac elfen gofal plant Dechrau’n Deg.  Dylid rhoi sylw penodol i gynyddu’r cysondeb rhwng y gyfradd a delir fesul awr ar gyfer y blynyddoedd cynnar a gofal plant”[1]

Yn anffodus gwrthodwyd yr argymhelliad hwn gan Huw Irranca-Davies, AC, Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol.

Rydym o’r farn bod cyfuno'r alwad i gysoni ar draws y tair ffynhonnell amrywiol o gyllid o bosib wedi cymhlethu’r mater penodol o ariannu addysg 3 oed.  Mae’n wir nad oes modd cymharu costau gofal / addysg plant dwy oed a thair oed oherwydd y goblygiadau staffio amrywiol.  Yn yr ymateb a roddwyd gan Huw Irranca-Davies, dyma oedd y rheswm a nodwyd dros wrthod yr argymhelliad.

Tystiolaeth am Gyllido teg Cyfnod Sylfaen yn y Sector Nas Cynhelir

Felly cyflwynwn yr achos unwaith eto yng ngwyneb gwybodaeth fwy diweddar a thystiolaeth newydd sydd bellach ar gael trwy’r adroddiad gwerthuso Gwerthuso Gweithredu Cynnar y Cynnig Gofal Plant i Gymru a gyhoeddwyd ar 22/11/2018.[2]

Dyfynnwn yn uniongyrchol o’r adroddiad:

Argymhellion (Tudalen 23)

Mae angen ystyried sicrhau mwy o gysondeb rhwng darparu gofal plant a Darpariaeth Feithrin y Cyfnod Sylfaen o safbwynt mynediad i rieni a threfniadau cyllido.[3]

Mae gan Mudiad Meithrin dystiolaeth gynyddol wrth ein staff llawr gwlad bod yna gynnydd mewn Cylchoedd Meithrin sydd yn ystyried,  tynnu allan o fod yn ddarparwyr addysg 3 oed am resymau ariannol.  Daw’r wybodaeth yma o sawl rhanbarth o Gymru, y De-ddwyrain, y De-orllewin a’r Gogledd-ddwyrain.  Ymysg y rhesymau a roddir yw:

    bod cynyddu’r oriau gwaith er mwyn cymryd rhan a chynnig  amcanion polisi Llywodraeth Cymru o weithredu’r Cynllun Gofal Plant 30 awr wedi symud gweithwyr dros y trothwy trethi ag yswiriant gwladol a chynyddu costau staffio'r Cylchoedd.  Maent yn adrodd bod y gyfradd arian am elfen gofal y Cynllun 30 awr (£4.50) yr awr yn gorfod sybsideiddio y cynnig Cyfnod Sylfaen mewn siroedd ble mae’r cyfraddau tal yn isel.

    Mewn rhai ardaloedd mae gagendor rhwng y cyfraddau ariannu gofal ag addysg tair oed.  Darparwyd tystiolaeth gan fudiadau CWLWM i’r pwyllgor Cyllid yn dangos bod cyfraddau cyllido Cyfnod Sylfaen 3-4 oed yn amrywio o £2.50 fesul awr i £4.47 fesul awr.  Ceir trefniadau amgen hefyd ble gellid bod Cylch yn cael eu hariannu ar gyfradd safonol am wythnos, cyfradd safonol fesul plentyn, fesul tymor, ariannu staff i ddiwallu cymarebau gofynnol neu ariannu nifer penodol o leoedd.

Gwyddwn fod cefnogaeth gyffredinol bellach i’r argymhelliad y dylai fod ariannu teg a chyfatebol ar draws Cymru ar gyfer addysg 3-4 oed mewn lleoliadau nas cynhelir.  Hoffem ddefnyddio’r cyfle hwn i atgoffa’r Pwyllgor bod materion cyllido addysg yn ehangach na’r hyn sydd yn digwydd tu fewn i’n hysgolion yn unig, ac nad yw’r anghysondeb yma wedi ei ddatrys eto.

Ariannu Cefnogaeth ag Hyfforddiant i leoliadau addysg 3 oed nas cynhelir

Mater arall hoffai Mudiad Meithrin dynnu sylw ato ydy’r cyllid sydd ar gael i hyfforddi a chefnogi’r lleoliadau addysg 3-4 oed nas cynhelir a’r gweithlu.  Tan yn ddiweddar (2017-2018) roedd canllawiau'r Grant Gwella Addysg i Ysgolion yn datgan bod disgwyl i Gonsortia ddefnyddio athrawon cymwysedig fel Athrawon Ymgynghorol y Blynyddoedd Cynnar (AYBC) i gefnogi lleoliadau nas cynhelir. Roedd y canllawiau hefyd yn datgan y dylai lleoliadau nas cynhelir dderbyn 10% o amser agor y lleoliad fel yr canllaw amser am gefnogaeth dylent ei dderbyn gan yr AYBC. (Roedd dehongliad o’r “10%” hyn yn amrywiol o un Sir i’r llall felly rydym wedi defnyddio dehongliad ac argymhelliad ESTYN yma)

Newidiwyd y canllawiau hyn yn 2017-2018 gan arwain at sefyllfa llawer mwy bregus bellach o safbwynt y gefnogaeth sydd ar gael i leoliadau nas cynhelir. Mae hyn er gwaethaf argymhellion ESTYN yn 2015 y

Dylai Llywodraeth Cymru:

Ystyried clustnodi cyllid i wneud yn siŵr bod bob lleoliad yn cael 10% o gymorth gan athro cymwys a hyfforddiant ychwanegol i hyn’[4]

Mae 84% o leoliadau Mudiad Meithrin sydd yn derbyn arian addysg wedi llwyddo i gael ‘Da’ neu well yn eu harolygon Estyn.  Mae cefnogaeth gadarn yr AYBC, y pwyllgorau gwirfoddol a Swyddogion Cefnogi Mudiad Meithrin wedi bod yn hanfodol i gyrraedd y safonau hyn.  Daw risg i safonau addysg os gwelir dirywiad yn y gwasanaethau a ddarperir gan y AYBC ledled Cymru oherwydd crebachu ariannol o’r hyn sydd ar gael trwy’r Grant Gwella Addysg i Ysgolion. 

 

Nid ydy Mudiad Meithrin am dynnu sylw oddi ar brif ffocws gwaith y pwyllgor wrth ytyried y mater hollbwysig o gyllido ysgolion Cymru.  Mae’n bwnc ac yn faes sydd yn ddirfawr angen ei fonitro, ei werthfawrogi a’i archwilio mewn cyfnod pan welwyd gymaint o doriadau yn y maes.  Serch hynny gofynnwn yn garedig bod maes gorchwyl y pwyllgor yn rhoi ystyriaeth hefyd i’r garfan fychan o blant 3-4 oed sydd yn derbyn addysg safonol a chreadigol mewn Cylchoedd Meithrin ledled Cymru.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 



[1] Goblygiadau ariannol y Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru) Gorffennaf 2018 – Y Pwyllgor Cyllid

[2] https://gov.wales/statistics-and-research/evaluation-childcare-offer-wales/?skip=1&lang=cy

[3] Ibid

[4] Effaith athrawon ymynghorol mewn lleoliadau nas cynhelir a ariennir’ ESTYN 2015