rhestr o welliannau wedi’u didoli
marshalled list of amendments
Bil Gwahardd Rasio Milgwn (Cymru)
Prohibition of Greyhound Racing (Wales) Bill
Mae‘r gwelliannau â * ar eu pwys yn rhai newydd neu‘n rhai sydd wedi‘u haddasu
Amendments marked * are new or have been altered
Mae gwelliannau a nodir ag ‘R’ yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant cofrestradwy o dan Reol Sefydlog 2 neu fuddiant perthnasol o dan Reolau Sefydlog 13 neu
17 wrth gyflwyno’r gwelliant.
Amendments marked ‘R’ mean that the Member has declared either a registrable interest under Standing Order 2 or relevant interest under Standing Orders 13 or 17 when tabling the amendment.
Caiff y Bil ei ystyried yn y drefn a ganlyn—
The Bill will be considered in the following order—
Sections 1-3 Adrannau 1-3
Schedule 1 Atodlen 1
Section 4 Adran 4
Schedule 2 Atodlen 2
Sections 5-6 Adrannau 5-6
Long Title Teitl hir
Huw Irranca-Davies 1
Section 1, page 1, line 9, after ‘racing’, insert ‘that—
(i) takes place in Wales, or
(ii) is intended to take place’.
Adran 1, tudalen 1, llinell 9, ar ôl ‘milgwn’, mewnosoder ‘—
(i) sy’n digwydd yng Nghymru, neu
(ii) y bwriedir iddo ddigwydd’.
Rhys ab Owen 2
Section 1, page 1, after line 9, insert—
‘( ) is an owner, co-owner or trainer of a greyhound and uses such greyhound, or knowingly permits such greyhound to be used, for greyhound racing in Wales, or
( ) is an attendee of greyhound racing in Wales.’.
Adran 1, tudalen 1, ar ôl llinell 9, mewnosoder—
‘( ) yn berchennog, yn gyd-berchennog neu’n hyfforddwr milgi a’i fod yn defnyddio’r milgi hwnnw, neu dan wybod iddo yn caniatáu i’r milgi hwnnw gael ei ddefnyddio, ar gyfer rasio milgwn yng Nghymru, neu
( ) yn fynychwr rasio milgwn yng Nghymru.’.
Rhys ab Owen 3
Section 2, page 1, after line 13, insert—
‘( ) “attendee” means—
(i) a person attending a greyhound racing event in Wales as a spectator;
(ii) a person attending a greyhound racing event in Wales whose principal purpose is to provide services in connection with such an event.’.
Adran 2, tudalen 1, ar ôl llinell 13, mewnosoder—
‘( ) ystyr “mynychwr” yw—
(i) person sy’n mynychu digwyddiad rasio milgwn yng Nghymru fel gwyliwr;
(ii) person sy’n mynychu digwyddiad rasio milgwn yng Nghymru sydd â’r prif ddiben o ddarparu gwasanaethau mewn cysylltiad â digwyddiad o’r fath.’.
Rhys ab Owen 4
Section 2, page 1, line 14, leave out ‘around’ and insert ‘on’.
Adran 2, tudalen 1, llinell 14, hepgorer ‘o amgylch trac’ a mewnosoder ‘ar drac’.
Rhys ab Owen 5
Section 2, page 1, line 15, leave out ‘activated by mechanical means’.
Adran 2, tudalen 1, llinell 14, hepgorer ‘sydd wedi ei actifadu’n fecanyddol’.
Rhys ab Owen 6
Section 2, page 1, line 16, leave out ‘around’ and insert ‘on’.
Adran 2, tudalen 1, llinell 16, hepgorer ‘o amgylch trac’ a mewnosoder ‘ar drac’.
Rhys ab Owen 7
Page 1, after line 28, insert a new section—
‘Review of Act
[ ] Review of operation and effect of Act
(1) The Welsh Ministers must, no later than the end of the 5 year period, carry out a review of the operation and effect of this Act.
(2) The Welsh Ministers must begin evaluation activity in relation to the operation and effect of this Act within 12 months beginning with the day appointed by Welsh Ministers under section 5(2).
(3) In this section, “the 5 year period” means the period of 5 years beginning with the day appointed by Welsh Ministers under section 5(2).’.
Tudalen 1, ar ôl llinell 29, mewnosoder adran newydd—
‘Adolygiad o’r Ddeddf
[ ] Adolygiad o weithrediad ac effaith y Ddeddf
(1) Rhaid i Weinidogion Cymru, heb fod yn hwyrach na diwedd y cyfnod o 5 mlynedd, gynnal adolygiad o weithrediad ac effaith y Ddeddf hon.
(2) Rhaid i Weinidogion Cymru ddechrau gweithgarwch gwerthuso mewn perthynas â gweithrediad ac effaith y Ddeddf hon o fewn 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru o dan adran 5(2).
(3) Yn yr adran hon, ystyr “y cyfnod o 5 mlynedd” yw’r cyfnod o 5 mlynedd sy’n dechrau â’r diwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru o dan adran 5(2).’.
Rhys ab Owen 8
Page 1, after line 28, insert a new section—
‘[ ] Report on operation and effect of Act
(1) The Welsh Ministers must, as soon as practicable after the end of the 5 year period, lay before Senedd Cymru a report on the operation and effect of this Act during that period.
(2) In preparing the report the Welsh Ministers must consult such persons as they consider appropriate.
(3) The Welsh Ministers must publish the report as soon as practicable after it has been laid before Senedd Cymru.
(4) “The 5 year period” is the period of time specified in section [new section to be inserted by amendment 7](3).’.
Tudalen 1, ar ôl llinell 29, mewnosoder adran newydd—
‘[ ] Adroddiad ar weithrediad ac effaith y Ddeddf
(1) Rhaid i Weinidogion Cymru, cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl diwedd y cyfnod o 5 mlynedd, osod gerbron y Senedd adroddiad ar weithrediad ac effaith y Ddeddf hon yn ystod y cyfnod hwnnw.
(2) Wrth lunio’r adroddiad, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r personau hynny y maent yn ystyried eu bod yn briodol.
(3) Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi’r adroddiad cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl iddo gael ei osod gerbron Senedd Cymru.
(4) “Y cyfnod o 5 mlynedd” yw’r cyfnod a bennir yn adran [adran newydd i’w mewnosod gan welliant 7](3).’.
James Evans 11
Page 1, after line 28, insert a new section—
‘Transitional arrangements
[ ] Interim regulation of greyhound racing
(1) The Welsh Ministers must make regulations to provide for the regulation of greyhound racing in Wales.
(2) Regulations under this section must provide for the regulation of greyhound racing in Wales to come into force within six months of this Act receiving Royal Assent.
(3) The regulations must provide for the regulation of greyhound racing in Wales until the date appointed by the Welsh Ministers under section 5(2).
(4) The power to make regulations under this section is exercisable by Welsh statutory instrument.
(5) Regulations made under this section are subject to the Senedd approval procedure.’.
Tudalen 1, ar ôl llinell 29, mewnosoder adran newydd—
‘Trefniadau trosiannol
[ ] Rheoleiddio rasio milgwn dros dro
(1) Rhaid i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau i ddarparu ar gyfer rheoleiddio rasio milgwn yng Nghymru.
(2) Rhaid i reoliadau o dan yr adran hon ddarparu bod rheoleiddio rasio milgwn yng Nghymru yn dod i rym o fewn chwe mis i’r Ddeddf hon gael y Cydsyniad Brenhinol.
(3) Rhaid i’r rheoliadau ddarparu ar gyfer rheoleiddio rasio milgwn yng Nghymru tan y dyddiad a bennir gan Weinidogion Cymru o dan adran 5(2).
(4) Mae’r pŵer i wneud rheoliadau o dan yr adran hon yn arferadwy drwy offeryn statudol Cymreig.
(5) Mae rheoliadau a wneir o dan yr adran hon yn ddarostyngedig i weithdrefn gymeradwyo’r Senedd.’.
James Evans 12
Page 1, after line 28, insert a new section—
‘Review of transitional arrangements
[ ] Review of interim regulation of greyhound racing
(a) undertake a review of the effectiveness of the regulation of greyhound racing in Wales,
(b) publish, in such manner as they consider appropriate, a report of the review, and
(c) lay the report before Senedd Cymru.
(2) The review under subsection (1) must be completed within 2 years of the regulations under section [section to be inserted by amendment 11] coming into effect.
(3) A report under this section must be published and laid before Senedd Cymru soon as reasonably practicable following completion of the review.’.
Tudalen 1, ar ôl llinell 29, mewnosoder adran newydd—
‘Adolygiad o drefniadau trosiannol
[ ] Adolygiad o reoleiddio rasio milgwn dros dro
(1) Rhaid i Weinidogion Cymru—
(a) cynnal adolygiad o effeithiolrwydd rheoleiddio rasio milgwn yng Nghymru,
(b) cyhoeddi, mewn unrhyw fodd y maent yn ystyried ei fod yn briodol, adroddiad ar yr adolygiad, ac
(c) gosod yr adroddiad gerbron Senedd Cymru.
(2) Rhaid cwblhau’r adolygiad o dan is-adran (1) o fewn 2 flynedd i’r rheoliadau o dan adran [adran i’w mewnosod gan welliant 11] ddod i rym.
(3) Rhaid cyhoeddi adroddiad o dan yr adran hon a’i osod gerbron Senedd Cymru cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl cwblhau’r adolygiad.’.
James Evans 13
Page 1, after line 28, insert a new section—
‘Economic and social impact of Act
[ ] Assessment of economic and social impact of Act
(1) The Welsh Ministers must assess the economic and social impact of prohibiting greyhound racing in Wales.
(2) The assessment must, in particular, consider—
(a) the economic impact on those directly and indirectly employed in greyhound racing and associated industries in Wales;
(b) the impact on local economies and communities in which greyhound racing currently takes place;
(c) the consequences for animal welfare arising from the displacement or cessation of regulated greyhound racing;
(d) the potential costs to the public sector arising from enforcement, rehoming, or welfare interventions;
(e) any other matters identified as relevant in the report of the Senedd’s Culture, Communications, Welsh Language, Sport and International Relations Committee on greyhound racing laid before Senedd Cymru on 5 December 2025.
(3) In carrying out the assessment, the Welsh Ministers must consult—
(a) persons involved in the greyhound racing industry;
(b) local authorities affected by a prohibition;
(c) animal welfare organisations;
(d) such other persons as the Welsh Ministers consider appropriate.
(a) publish, in such manner as they consider appropriate, a report of the assessment, and
(b) lay the report before Senedd Cymru.
(5) The assessment must be completed and a report of the assessment laid before Senedd Cymru at least 3 months before the Welsh Ministers appoint a day under section 5(2).’.
Tudalen 1, ar ôl llinell 29, mewnosoder adran newydd—
‘Effaith economaidd a chymdeithasol y Ddeddf
[ ] Asesiad o effaith economaidd a chymdeithasol y Ddeddf
(1) Rhaid i Weinidogion Cymru asesu effaith economaidd a chymdeithasol gwahardd rasio milgwn yng Nghymru.
(2) Rhaid i’r asesiad, yn benodol, ystyried—
(a) yr effaith economaidd ar y rhai a gyflogir yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol mewn rasio milgwn a diwydiannau cysylltiedig yng Nghymru;
(b) yr effaith ar economïau a chymunedau lleol y mae rasio milgwn yn digwydd ynddynt ar hyn o bryd;
(c) y canlyniadau o ran lles anifeiliaid sy’n deillio o ddadleoli neu roi’r gorau i rasio milgwn rheoleiddiedig;
(d) y costau posibl i’r sector cyhoeddus sy’n deillio o orfodi, ailgartrefu, neu ymyriadau lles;
(e) unrhyw faterion eraill y nodwyd eu bod yn berthnasol yn adroddiad Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol y Senedd ar rasio milgwn a osodwyd gerbron Senedd Cymru ar 5 Rhagfyr 2025.
(3) Wrth gynnal yr asesiad, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag—
(a) personau sydd ynghlwm wrth y diwydiant rasio milgwn;
(b) awdurdodau lleol y mae gwaharddiad yn effeithio arnynt;
(c) sefydliadau lles anifeiliaid;
(d) unrhyw bersonau eraill y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol.
(4) Rhaid i Weinidogion Cymru—
(a) cyhoeddi, mewn unrhyw fodd y maent yn ystyried ei fod yn briodol, adroddiad ar yr asesiad, a
(b) gosod yr adroddiad gerbron Senedd Cymru.
(5) Rhaid cwblhau’r asesiad a gosod adroddiad ar yr asesiad gerbron Senedd Cymru o leiaf 3 mis cyn i Weinidogion Cymru bennu dyddiad o dan adran 5(2).’.
James Evans 14
Page 1, after line 28, insert a new section—
‘Human rights assessment
[ ] Assessment of human rights impact
(1) The Welsh Ministers must undertake a human rights assessment of the impact this Act will have on persons affected by this Act.
(2) The assessment must, in particular, consider—
(a) the compatibility of prohibiting greyhound racing in Wales with Article 1 of the First Protocol to the European Convention on Human Rights (protection of property);
(b) whether such a prohibition pursues a legitimate aim in the public interest;
(c) whether the measures proposed are proportionate to that aim;
(d) whether less intrusive alternatives could achieve the same objective.
(3) The assessment must take account of the analysis and recommendations contained in the report of the Senedd’s Legislation, Justice and Constitution Committee on greyhound racing laid before Senedd Cymru on 5 December 2025.
(a) publish, in such manner as they consider appropriate, a report of the assessment, and
(b) lay the report before Senedd Cymru.
(5) The assessment must be completed and a report of the assessment laid before Senedd Cymru at least 3 months before the Welsh Ministers appoint a day under section 5(2).’.
Tudalen 1, ar ôl llinell 29, mewnosoder adran newydd—
‘Asesiad hawliau dynol
[ ] Asesiad o’r effaith ar hawliau dynol
(1) Rhaid i Weinidogion Cymru gynnal asesiad hawliau dynol o’r effaith y bydd y Ddeddf hon yn ei chael ar bersonau y mae’r Ddeddf hon yn effeithio arnynt.
(2) Rhaid i’r asesiad, yn benodol, ystyried—
(a) cydnawsedd gwahardd rasio milgwn yng Nghymru ag Erthygl 1 o’r Protocol Cyntaf i’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol (diogelu eiddo);
(b) a yw gwaharddiad o’r fath yn anelu at nod dilys sydd o fudd i’r cyhoedd;
(c) a yw’r mesurau a gynigir yn gymesur â’r nod hwnnw;
(d) a allai dewisiadau amgen llai ymwthiol gyflawni’r un amcan.
(3) Rhaid i’r asesiad ystyried y dadansoddiad a’r argymhellion yn adroddiad Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad y Senedd ar rasio milgwn a osodwyd gerbron Senedd Cymru ar 5 Rhagfyr 2025.
(4) Rhaid i Weinidogion Cymru—
(a) cyhoeddi, mewn unrhyw fodd y maent yn ystyried ei fod yn briodol, adroddiad ar yr asesiad, a
(b) gosod yr adroddiad gerbron Senedd Cymru.
(5) Rhaid cwblhau’r asesiad a gosod adroddiad ar yr asesiad gerbron Senedd Cymru o leiaf 3 mis cyn i Weinidogion Cymru bennu diwrnod o dan adran 5(2).’.
Rhys ab Owen 9
Section 5, page 2, line 3, after ‘section’ at the first place where it appears, insert ‘, section [new section to be inserted by amendment 7], section [new section to be inserted by amendment 8]’.
Adran 5, tudalen 2, llinell 3, ar ôl ‘hon’ yn y lle cyntaf y mae’n ymddangos, mewnosoder ‘, adran [adran newydd i’w mewnosod gan welliant 7], adran [adran newydd i’w mewnosod gan welliant 8]’.
James Evans 15
Section 5, page 2, line 3, after ‘section’ at the first place where it appears, insert ‘, section [section to be inserted by amendment 11]’.
Adran 5, tudalen 2, llinell 3, ar ôl ‘hon’ yn y lle cyntaf y mae’n ymddangos, mewnosoder ‘, adran [adran i’w mewnosod gan welliant 11]’.
James Evans 16
Section 5, page 2, line 3, after ‘section’ at the first place where it appears, insert ‘, section [section to be inserted by amendment 12]’.
Adran 5, tudalen 2, llinell 3, ar ôl ‘hon’ yn y lle cyntaf y mae’n ymddangos, mewnosoder ‘, adran [adran i’w mewnosod gan welliant 12]’.
James Evans 17
Section 5, page 2, line 3, after ‘section’ at the first place where it appears, insert ‘, section [section to be inserted by amendment 13]’.
Adran 5, tudalen 2, llinell 3, ar ôl ‘hon’ yn y lle cyntaf y mae’n ymddangos, mewnosoder ‘, adran [adran i’w mewnosod gan welliant 13]’.
James Evans 18
Section 5, page 2, line 3, after ‘section’ at the first place where it appears, insert ‘, section [section to be inserted by amendment 14]’.
Adran 5, tudalen 2, llinell 3, ar ôl ‘hon’ yn y lle cyntaf y mae’n ymddangos, mewnosoder ‘, adran [adran i’w mewnosod gan welliant 14]’.
Rhys ab Owen 10
Section 5, page 2, line 7, leave out ‘—
(a) no sooner than 1 April 2027, and
(b) no later than 1 April 2030’
and insert 'no later than 1 April 2027'.
Adran 5, tudalen 2, llinell 7, hepgorer ‘—
(a) and yw cyn 1 Ebrill 2027, a
(b) and yw ar ôl 1 April 2030’
a mewnosoder ‘nad yw ar ôl 1 Ebrill 2027’.
James Evans 19
Section 5, page 2, line 8, leave out ‘April 2027’ and insert ‘October 2028’.
Adran 5, tudalen 2, llinell 8, hepgorer ‘Ebrill 2027’ a mewnosoder ‘Hydref 2028’.
James Evans 20
Section 5, page 2, line 9, leave out ‘April 2030’ and insert ‘October 2031’.
Adran 5, tudalen 2, llinell 9, hepgorer ‘Ebrill 2030’ a mewnosoder ‘Hydref 2031’.