Annwyl gyfaill
Ymgynghoriad ar y Bil Amgylchedd Hanesyddol (Cymru)
Diolch am gymwynas sy’n caniatáu imi gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig ychwanegol i’r pwyllgor craffu ar ran Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru (CELlC). Ceisiaf osgoi unrhyw ailadrodd ac ailddweud o ran y dystiolaeth a gyflwynwyd gennym eisoes.
Aethpwyd ati i ffurfio Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru ryw chwe mlynedd yn ôl. Un pryder gennym adeg sefydlu CELlC oedd bod enwau sy’n rhan annatod o dreftadaeth hanesyddol Cymru naill ai mewn perygl o ddiflannu neu dan fygythiad - a’r rheini’n enwau ar elfennau mewndirol yn ogystal ag arfordirol. Mae’r pryder a’r bygythiad yn dal ac mae’r sefyllfa sydd ohoni yn peri inni holi’n ddifrifol a yw’r cyrff hynny sydd eisoes wedi eu siarsio i ofalu am dreftadaeth hanesyddol Cymru yn wir gymwys a galluog i wneud hynny’n llwyddianus.
Mae Dr Rhian Parry eisoes [yn adrannau 332; 336; 337; 338; 343; 394 o’i thystiolaeth lafar] wedi tynnu sylw’r pwyllgor craffu at rai enghreifftiau o’r diffygion amlwg sy’n peri pryder i amryw ohonom sy’n frwd i amddiffyn y dreftadaeth hanesyddol yn ei chyfanrwydd. Yn ei ffurf bresennol dyw’r bil ddim yn gwneud hynny; sut bynnag, gwerthfawrogwn yn fawr gonsyrn amlwg yr aelodau a fynegodd eu cydymdeimlad â’r sefyllfa a’u hawydd i geisio diwygio cwmpas y bil i gynnwys enwau lleoedd, os yw hynny’n bosibl. Oni wneir hynny, ein gofid ni yw y bydd y sefyllfa’n dirywio ymhellach. Tybed a allai gweithgarwch Cronfa Treftadaeth y Loteri Cenedlaethol yng Nghymru ac yng Nghernyw gynnig trywydd y byddai’n werth i’r pwyllgor ei archwilio. Mae’r Gronfa Treftadaeth yng Nghymru yn gyfrifol am gyllido cynllun Gwarchod CELlC ac yn ystyried enwau yn elfen gyflawn yng nghwmpas cyllido eu gweithgarwch treftadaeth. Byddai’n dda petai modd cydnabod brwdfrydedd cyffelyb yn y Bil.
Cefnogwn yn llwyr yr awgrymiadau cadarnhaol a wnaed yn ysgrifenedig i’r ymgynghori gan Gomisiynydd y Gymraeg. Hybu a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg yw prif nod y Comisiynydd. Ym maes y dreftadaeth hanesyddol rhaid ystyried enwau Cymraeg, wrth reswm, ac yn ogystal enwau sy’n tarddu o gefndir Lladinaidd, Gwyddelig, Eingl-Normanaidd, Sgandinafaidd a Seisnig.
Mae cwmpas eang o enwau yn anfon negeseuon inni o’r gorffennol. Mesur o gymdeithas wâr yw ein gallu i ymateb iddynt.
Yn bur
David Thorne
Yr Athro David Thorne
Cadeirydd
Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru