Hysbysiad Ynghylch Gwelliannau
Notice of amendments
Cyflwynwyd ar 20 Ionawr 2026
Tabled on 20 January 2026
Bil Gwahardd Rasio Milgwn (Cymru)
Prohibition of Greyhound Racing (Wales) Bill
Rhys ab Owen 2
Section 1, page 1, after line 9, insert—
‘( ) is an owner, co-owner or trainer of a greyhound and uses such greyhound, or knowingly permits such greyhound to be used, for greyhound racing in Wales, or
( ) is an attendee of greyhound racing in Wales.’.
Adran 1, tudalen 1, ar ôl llinell 9, mewnosoder—
‘( ) yn berchennog, yn gyd-berchennog neu’n hyfforddwr milgi a’i fod yn defnyddio’r milgi hwnnw, neu dan wybod iddo yn caniatáu i’r milgi hwnnw gael ei ddefnyddio, ar gyfer rasio milgwn yng Nghymru, neu
( ) yn fynychwr rasio milgwn yng Nghymru.’.
Rhys ab Owen 3
Section 2, page 1, after line 13, insert—
‘( ) “attendee” means -
(i) a person attending a greyhound racing event in Wales as a spectator;
(ii) a person attending a greyhound racing event in Wales whose principal purpose is to provide services in connection with such an event.’.
Adran 2, tudalen 1, ar ôl llinell 13, mewnosoder—
‘( ) ystyr “mynychwr” yw—
(i) person sy’n mynychu digwyddiad rasio milgwn yng Nghymru fel gwyliwr;
(ii) person sy’n mynychu digwyddiad rasio milgwn yng Nghymru sydd â’r prif ddiben o ddarparu gwasanaethau mewn cysylltiad â digwyddiad o’r fath.’.
Rhys ab Owen 4
Section 2, page 1, line 14, leave out ‘around’ and insert ‘on’.
Adran 2, tudalen 1, llinell 14, hepgorer ‘o amgylch trac’ a mewnosoder ‘ar drac’.
Rhys ab Owen 5
Section 2, page 1, line 15, leave out ‘activated by mechanical means’.
Adran 2, tudalen 1, llinell 14, hepgorer ‘sydd wedi ei actifadu’n fecanyddol’.
Rhys ab Owen 6
Section 2, page 1, line 16, leave out ‘around’ and insert ‘on’.
Adran 2, tudalen 1, llinell 16, hepgorer ‘o amgylch trac’ a mewnosoder ‘ar drac’.
Rhys ab Owen 7
Page 1, after line 28, insert a new section—
‘Review of Act
[ ] Review of operation and effect of Act
(1) The Welsh Ministers must, no later than the end of the 5 year period, carry out a review of the operation and effect of this Act.
(2) The Welsh Ministers must begin evaluation activity in relation to the operation and effect of this Act within 12 months beginning with the day appointed by Welsh Ministers under section 5(2).
(3) In this section, “the 5 year period” means the period of 5 years beginning with the day appointed by Welsh Ministers under section 5(2).’.
Tudalen 1, ar ôl llinell 29, mewnosoder adran newydd—
‘Adolygiad o’r Ddeddf
[ ] Adolygiad o weithrediad ac effaith y Ddeddf
(1) Rhaid i Weinidogion Cymru, heb fod yn hwyrach na diwedd y cyfnod o 5 mlynedd, gynnal adolygiad o weithrediad ac effaith y Ddeddf hon.
(2) Rhaid i Weinidogion Cymru ddechrau gweithgarwch gwerthuso mewn perthynas â gweithrediad ac effaith y Ddeddf hon o fewn 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru o dan adran 5(2).
(3) Yn yr adran hon, ystyr “y cyfnod o 5 mlynedd” yw’r cyfnod o 5 mlynedd sy’n dechrau â’r diwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru o dan adran 5(2).’.
Rhys ab Owen 8
Page 1, after line 28, insert a new section—
‘[ ] Report on operation and effect of Act
(1) The Welsh Ministers must, as soon as practicable after the end of the 5 year period, lay before Senedd Cymru a report on the operation and effect of this Act during that period.
(2) In preparing the report the Welsh Ministers must consult such persons as they consider appropriate.
(3) The Welsh Ministers must publish the report as soon as practicable after it has been laid before Senedd Cymru.
(4) “The 5 year period” is the period of time specified in section [new section to be inserted by amendment 7](3).’.
Tudalen 1, ar ôl llinell 29, mewnosoder adran newydd—
‘[ ] Adroddiad ar weithrediad ac effaith y Ddeddf
(1) Rhaid i Weinidogion Cymru, cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl diwedd y cyfnod o 5 mlynedd, osod gerbron y Senedd adroddiad ar weithrediad ac effaith y Ddeddf hon yn ystod y cyfnod hwnnw.
(2) Wrth lunio’r adroddiad, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r personau hynny y maent yn ystyried eu bod yn briodol.
(3) Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi’r adroddiad cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl iddo gael ei osod gerbron Senedd Cymru.
(4) “Y cyfnod o 5 mlynedd” yw’r cyfnod a bennir yn adran [adran newydd i’w mewnosod gan welliant 7](3).’.
Rhys ab Owen 9
Section 5, page 2, line 3, after ‘section’ at the first place where it appears, insert ‘, section [new section to be inserted by amendment 7], section [new section to be inserted by amendment 8]’.
Adran 5, tudalen 2, llinell 3, ar ôl ‘hon’ yn y lle cyntaf y mae’n ymddangos, mewnosoder ‘, adran [adran newydd i’w mewnosod gan welliant 7], adran [adran newydd i’w mewnosod gan welliant 8]’.
Rhys ab Owen 10
Section 5, page 2, line 7, leave out ‘—
(a) no sooner than 1 April 2027, and
(b) no later than 1 April 2030’
and insert 'no later than 1 April 2027'.
Adran 5, tudalen 2, llinell 7, hepgorer ‘—
(a) and yw cyn 1 Ebrill 2027, a
(b) and yw ar ôl 1 April 2030’
a mewnosoder ‘nad yw ar ôl 1 Ebrill 2027’.