Hysbysiad Ynghylch Gwelliannau
Notice of amendments
Cyflwynwyd ar 16 Ionawr 2026
Tabled on 16 January 2026
Bil Iaith Arwyddion Prydain (Cymru)
British Sign Language (Wales) Bill
Sioned Williams 16
Section 2, page 1, after line 13, insert—
‘( ) The BSL strategy must include steps the Welsh Ministers intend to take to—
(a) collect information in relation to, and monitor, the use of BSL;
(b) provide opportunities for persons to learn and use BSL in the workplace.’.
Adran 2, tudalen 1, ar ôl llinell 15, mewnosoder—
‘( ) Rhaid i'r strategaeth IAP gynnwys y camau y mae Gweinidogion Cymru yn bwriadu eu cymryd i—
(a) casglu gwybodaeth mewn perthynas â’r defnydd o IAP, a monitro’r defnydd ohoni;
(b) darparu cyfleoedd i bersonau ddysgu a defnyddio IAP yn y gweithle.’.
Sioned Williams 17
Section 2, page 1, after line 25, insert—
‘( ) representatives of persons who are deaf and use BSL,’.
Adran 2, tudalen 1, ar ôl llinell 28, mewnosoder—
‘( ) cynrychiolwyr personau sy'n fyddar ac sy’n defnyddio IAP,’.
Sioned Williams 18
Page 2, after line 1, insert a new section—
‘[ ] Co-production of strategy and guidance
(1) The Welsh Ministers must publish a statement explaining how the views of deaf BSL signers have been taken into account in the preparation of—
(b) guidance issued under section 3.’.
Tudalen 2, ar ôl llinell 1, mewnosoder adran newydd—
‘[ ] Cydgynhyrchu strategaeth a chanllawiau
(1) Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi datganiad yn esbonio sut yr ystyriwyd safbwyntiau arwyddwyr IAP wrth lunio—
(b) canllawiau a ddyroddir o dan adran 3.’.
Sioned Williams 19
Section 3, page 2, after line 1, insert—
‘( ) Guidance issues under this section should include advice on how listed public bodies can enable BSL signers to play a leading role in the development of BSL plans (see section 4).’.
Adran 3, tudalen 2, ar ôl llinell 1, mewnosoder—
‘( ) Dylai canllawiau a ddyroddir o dan yr adran hon gynnwys cyngor ar sut y gall cyrff cyhoeddus rhestredig alluogi arwyddwyr IAP i chwarae rhan arweiniol yn natblygiad cynlluniau IAP (gweler adran 4).’.
Sioned Williams 20
Section 5, page 2, line 28, after ‘is’, insert ‘a deaf person; and’.
Adran 5, tudalen 2, llinell 30, ar ôl ‘benodir’, mewnosoder ‘yn berson byddar; ac’.
Sioned Williams 21
Section 5, page 2, after line 28, insert—
‘( ) Before appointing a person as the BSL adviser, the Welsh Ministers must consult representatives of persons who are deaf and use BSL.’.
Adran 5, tudalen 2, ar ôl llinell 30, mewnosoder—
‘( ) Cyn penodi person yn gynghorydd IAP, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â chynrychiolwyr personau sy'n fyddar ac sy’n defnyddio IAP.’.
Sioned Williams 22
Section 5, page 2, after line 28, insert—
‘( ) In appointing a person as the BSL adviser, the Welsh Ministers may seek advice for any purpose from any BSL signer whom they consider appropriate.’.
Adran 5, tudalen 2, ar ôl llinell 30, mewnosoder—
‘( ) Wrth benodi person yn gynghorydd IAP, caiff Gweinidogion Cymru geisio cyngor at unrhyw ddiben gan unrhyw arwyddwr IAP y maent yn ystyried ei fod yn briodol.’.
Sioned Williams 23
Page 4, after line 2, insert a new section—
‘[ ] Complaints guidance
(a) publish guidance on how persons who use BSL may complain about access to services provided by the Welsh Ministers or listed public bodies, and
(b) ensure that it is available in BSL.
(2) The Welsh Ministers may revise the guidance mentioned in subsection (1), and if they do so, they must publish the revised guidance.
(3) Before publishing guidance under this section, the Welsh Ministers must consult the Public Services Ombudsman for Wales.’.
Tudalen 4, ar ôl llinell 2, mewnosoder adran newydd—
‘[ ] Canllawiau cwyno
(1) Rhaid i Weinidogion Cymru—
(a) cyhoeddi canllawiau ar sut y caiff personau sy'n defnyddio IAP gwyno am fynediad at wasanaethau a ddarperir gan Weinidogion Cymru neu gyrff cyhoeddus rhestredig, a
(b) sicrhau eu bod ar gael yn IAP.
(2) Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio’r canllawiau a grybwyllir yn is-adran (1), ac os gwnânt hynny, rhaid iddynt gyhoeddi’r canllawiau diwygiedig.
(3) Cyn cyhoeddi canllawiau o dan yr adran hon, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.’.
Sioned Williams 24
Section 8, page 4, after line 14, insert—
‘( ) With effect from the date four years after this Act receives Royal Assent, each of the following is a “listed public body”—
(a) Citizen Voice Body for Health and Social Care (Llais);
(b) Medr (Commission for Tertiary Education and Research);
(c) Public Services Ombudsman for Wales;
Adran 8, tudalen 4, ar ôl llinell 15, mewnosoder—
‘( ) Gydag effaith o’r dyddiad bedair blynedd ar ôl i’r Ddeddf hon gael y Cydsyniad Brenhinol, mae pob un o’r canlynol yn “corff cyhoeddus rhestredig”—
(a) Corff Llais y Dinesydd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Llais);
(b) Medr (y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil);
(c) Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru;
(e) Gofal Cymdeithasol Cymru.’.