CAW228 Mudiad Addysg Grefyddol Cymru

Ymgynghoriad ar y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru)

Tystiolaeth i’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar gyfer Craffu Cyfnod 1 Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru).

Amdanoch Chi

Sefydliad: Mudiad Addysg Grefyddol Cymru

1.        Egwyddorion cyffredinol y Bil

1.1         A ydych yn cefnogi egwyddorion y Bil Cwricwlwm ac Asesu(Cymru)?

Ydw

1.2         Amlinellwch eich rhesymau dros eich ateb i gwestiwn 1.1

(byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb o dan oddeutu 1,500 o eiriau)

Mae egwyddorion sylfaenol y Bil yn cynnig diwygiad hir-ddisgwyliedig i’r cwricwlwm yng Nghymru.  Mae’r pedwar diben sydd wedi’u henwi am addysg yn darparu cynsail gref ar gyfer addysgu a dysgu.  Bydd trefnu’r cwricwlwm yn chwe maes dysgu a phrofiad, yn hytrach nag yn ôl y pynciau hanesyddol, yn darparu rhaglenni dysgu mwy cydlynol ac integredig.  Gallai enwi dim ond tri sgìl trawsgwricwlaidd fod yn gyfyngol. Er hynny, mae’n gywir i ddisgwyl bod eu cyflwyno a’u meithrin yn trwytho’r holl broses o ddysgu.  Serch hynny, testun pryder ydy’r ffordd y mae’r Bil yn delio â Chrefydd, Gwerthoedd a Moeseg. 

Mae crefydd yn ffenomen anochel sydd wedi, ac yn dal i, chwarae rhan arwyddocaol wrth lunio’r byd sydd ohoni.  Hyd yn oed os nad yw rhywun yn grefyddol, mae deall a gwerthuso persbectifau o’r fath ar y byd yn hanfodol i ddatblygiad personol a chymdeithasol pob unigolyn.

Mae gwerthoedd a moeseg yn gweithredu’n wahanol.  Mae pob agwedd ar brofiad dynol wedi’i liwio gan fframwaith gwerthoedd a moeseg yr unigolyn.  Gallai’r rheiny fod yn grefyddol ond, yn fwy-fwy, maen nhw’n tueddu bod yn anghrefyddol.  Mae trydydd diben y cwricwlwm yn awgrymu’n gywir y dylai ystyru gwerthoedd a moeseg drwytho’r cwricwlwm cyfan.  Er mwyn gweithredu’n effeithiol yn y cymdeithas, mae’n rhaid i bobl ifanc ddatblygu eu fframweithiau eu hunain a deall ei bod yn bosibl nad yw pobl eraill yn rhannu’r un gwerthoedd a moeseg.

Mae’r cyfnod ers Deddf Diwygio Addysg 1988 wedi gweld gwelliant sylweddol yn y graddau y mae addysg grefyddol yng Nghymru’n hyrwyddo’r briodol ac yn arwyddocaol “datblygiad ysbrydol, moesol, diwylliannol, meddyliol a chorfforol disgyblion a chymdeithas”.  Gwaetha’r modd, mae’n ymddangos nad yw’r ddogfen ymgynghori Cwricwlwm i Gymru: Crefydd, gwerthoedd a moeseg yn cydnabod y gwirionedd hwn.  Wrth gyfeirio at y Confensiwn Ewropeiaidd ar Hawlio Dynol, mae’r ddogfen ymgynghori hon yn rhoi coel ar y camsyniad poblogaidd bod addysg grefyddol gwricwlaidd yn gyfystyr â hyfforddiant (neu egwyddori) crefyddol.

Wrth ddadansoddi meysydd cytûn cyfredol Cymru, gellir gweld eu bod eisoes yn mynnu bod y pwnc yn cysylltu ag ystyriaethau moesegol ac athronyddol ehangach.  Mae’r meysydd llafur hyn yn trafod credoau crefyddol fel ffenomena i’w harchwilio mewn modd agored a phlwraliaethol.

Mae’r Bil yn cynnig cwricwlwm sy’n ddyniaethol yn y bôn.  Mae’n hollol gyson â’r weledigaeth addysgiadol hon bod dysgwyr yn cael y cyfle i fynd i’r afael â dealltwriaethau crefyddol o’r byd a phrofiadau dynol.  Byddai cwricwlwm plwraliaethol go iawn yn amddiffyn hawliau dysgwyr i ystyried persbectifau crefyddol, yn o gystal ag anghrefyddol) ar fywyd.  Mae ‘na le i grefydd, gwerthoedd a moeseg yng nghwricwlwm yr ysgol.  Fodd bynnag, dylai gwerthoedd a moeseg dreiddio pob un o’r chwe maes dysgu a phrofiad mewn ffordd na all crefydd.  Mae ystyried crefydd yng nghyd-destun ehangach gwerthoedd a moeseg yn fenter resymol sydd eisoes wedi’i hymgorffori ym meysydd cytûn Cymru.  Byddai dodi ‘crefydd, gwerthoedd a moeseg’ fel endid newydd yn lle addysg grefyddol yn wrthgynhyrchiol wrth chwilio am gwricwlwm plwraliaethol go iawn am y byddai’n arwain at leihad pellach yn y cynnwys isel sydd, ar hyn o bryd, ar gael i’r rhan fwyaf o ddisgyblion yng Nghymru.

Gwaetha’r modd, mae addysg grefyddol wedi dioddef, yn arbennig mewn ysgolion uwchradd, ers Deddf Diwygio Addysg 1988 a dyfodiad y Cwricwlwm Cenedlaethol.

Er bod y pwnc wedi parhau’n statudol o fewn y cwricwlwm seiliol, mae addysg grefyddol wedi’i wasgu tua’r ymylon, wrth i ysgolion ffocysu ar bynciau’r Cwricwlwm Cenedlaethol a’u proffîl uwch.

Ar yr un pryd, mae adnoddau sylweddol wedi’u rhoi’n genedlaethol i gynnal gwelliannau yn addysgu a dysgu pynciau’r Cwricwlwm Cenedlaethol.  Nid yw hyn wedi digwydd i’r un graddau i addysg grefyddol, sy’n cael ei phenderfynnu’n lleol.  Ym mhob awdurdod lleol, mae Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol a Chynhadledd Maes Llafur Cytûn wedi bod yn gyfrifol am y pwnc.  Yn ystod cyfnod o bwysau sylweddol ar gyllido addysg, nid oes dim arian ychwanegol canolog wedi neilltuo i’r awdurdodau hyn wneud y gwaith angenrheidiol o ddatlygu’r cwricwlwm a chefnogi’r athrawon sy’n ei gyflwyno.

Mae’r Bil yn gwneud newidiadau di-angen i Gynghorau Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol a Chynhadleddau Meysydd Llafur Cytûn.  Nid grwpiau lobïo sy’n hybu crefydd yn y cwricwlwm ydyn nhw.  Dim ond un grŵp ymysg y tri sy’n gwneud y cyngor ymgynghorol a’r gynhadledd ydy’r cynrychiolwyr crefyddol.  Mae’r ddau arall yn rhoi cynrychiolaeth i’r proffesiwn addysg (trwy’r undebau) a’r cymuned ehangach (trwy’r awdurdod lleol).  Mae hyn yn sicrhau cydbwysedd addas o ddiddordebau, crefyddol ac anghrefyddol, tra’n trafod crefydd yn y cwricwlwm.  Mae’r cyfrifoldeb am lunio’r maes llafur cytûn, fel arfer, yn cael ei ddirprwyo i ymarferwyr proffesiynol, gan gynnwys athrawon ac ymgynghorwyr addysgiadol.  Maen nhw’n ymgynghori o fewn yr awdurdod lleol ac yn bellach.  Mae’r Gynhadledd Maes Llafur Cytûn yn craffu ar y drafftiau, yn eu gwella os oes angen, ac yn eu mabwysiadu yn y pen draw.  Mae’r newid arfaethedig i enwau’r cyrff hyn yn ddiangen ac anaddas.  Mae’r trefniadau deddfwriaethol cyfredol yn ateb y gofyn.

 

1.3         A ydych yn credu bod angen deddfwriaeth i gyflawni’r hyn y mae’r Bil hwn yn ceisio’i gyflawni?

(byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb o dan oddeutu 500 o eiriau)

Mae'n amlwg bod rhaid i rywbeth gael ei wneud er mwyn gwella'r ddeddfwriaeth sy'n weithredol ar hyn o bryd.

2.        Gweithredu’r Bil

2.1         A oes gennych unrhyw sylwadau am unrhyw rwystrau posibl rhag gweithredu’r Bil? Os na, ewch i gwestiwn 3.1

(byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb o dan oddeutu 500 o eiriau)

Mae 'na oblygiadau ariannol ac ag adnoddau.

2.2         A ydych yn credu bod y Bil yn ystyried y rhwystrau posibl hyn?

(byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb o dan oddeutu 500 o eiriau)

-

3.        Canlyniadau anfwriadol

3.1         A ydych yn credu bod unrhyw ganlyniadau anfwriadol yn deillio o’r Bil? Os na, ewch i gwestiwn 4.1

(byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb o dan oddeutu 500 o eiriau)

Gweler sylwadau da 1.2 uchod.

4.        Goblygiadau ariannol

4.1         A oes gennych farn am oblygiadau ariannol y Bil (fel y’u nodir yn Rhan 2 o’r Memorandwm Esboniadol)? Os nad oes, ewch i gwestiwn 5.1

(byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb o dan oddeutu 500 o eiriau)

Mwyy o adnoddau i CYSAGau a ChMLlC.

5.        Pwerau I wneud is-ddeddfwriaeth

5.1         A oes gennych unrhyw sylwadau am addasrwydd y pwerau yn y Bil i Weinidogion Cymru i wneud is-ddeddfwriaeth (fel y’i nodir ym Mhennod 5 o Ran 1 o’r Memorandwm Esboniadol)? Os nad oes, ewch i gwestiwn 6.1.

(byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb o dan oddeutu 500 o eiriau.)

Na

6.        Ystyriaethau eraill

6.1         A oes gennych unrhyw bwyntiau eraill yr hoffech eu gwneud am y Bil hwn?

(byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb o dan oddeutu 1,000 o eiriau)

-